2 Samuel 6

Symud Arch yr Ymrwymiad i Jerwsalem

(1 Cronicl 13:1-14; 15:25—16:6,43)

1Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw. 2Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr Arglwydd holl-bwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid.

3Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen. 5Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen yr Arglwydd, a canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau.

6Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw. 7Roedd yr Arglwydd wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw.

8Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr Arglwydd wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.

9Roedd yr Arglwydd wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr Arglwydd ddod ata i?” meddai. 10Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr Arglwydd fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. 11Arhosodd Arch yr Arglwydd yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r Arglwydd yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd.

12Daeth Dafydd i glywed fod yr Arglwydd wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma Dafydd yn mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr. 13Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch yr Arglwydd wedi cerdded dim ond chwe cham, dyma Dafydd yn aberthu ychen a llo wedi ei besgi i Dduw.

14Roedd Dafydd yn gwisgo effod o liain main, ac yn dawnsio â'i holl egni o flaen yr Arglwydd. 15Roedd e a holl bobl Israel yn hebrwng Arch yr Arglwydd gan weiddi'n llawen a chanu'r corn hwrdd
6:15 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
.
16Wrth i Arch yr Arglwydd gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr Arglwydd, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.

17Dyma nhw'n dod ag Arch yr Arglwydd, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi, ac offrymau i gydnabod daioni'r Arglwydd. 18Wedi i Dafydd orffen offrymu'r anifeiliaid, dyma fe'n bendithio'r bobl ar ran yr Arglwydd holl-bwerus. 19Ac wedyn dyma fe'n rhannu bwyd i holl bobl Israel, y dynion a'r merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen ddatys a teisen rhesin. Yna aeth pawb adre.

20Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna ble roedd e yn fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!” 21Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr Arglwydd oeddwn i – yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr Arglwydd. O'i flaen e 22dw i'n fodlon gwneud mwy o ffŵl ohono i fy hun. Falle fod gen ti gywilydd ohono i, ond bydd y caethferched wyt ti'n sôn amdanyn nhw yn fy mharchu i!”

23Wnaeth Michal, merch Saul, ddim cael plant o gwbl.

Copyright information for CYM